Yn ymestyn or Oesoedd Ib hyd y dwthwn hwn, maer gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno or byd y daethpwyd iw hadnabod fel Cymru. Dymar llyfr syn egluro pam, er gwaethaf pawb a phopeth, rydym yma o hyd. Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciaur glowyr ar ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y maer stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlur Cynulliad Cenedlaethol.